|
|
| Rhifydd Ymwelwyr | | 1,357,374 |
|
|
Wedi ei eni a’i fagu ym Mhontarddulais, addysgwyd Eric Jones yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Tregwyr cyn graddio mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Cychwynnodd ei yrfa ddysgu yn Llanelli, cyn dod maes o law yn Bennaeth Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Creadigol yn Ysgol Mynyddbach, Abertawe. Ar ôl cyfnod fel Dirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Gwyr, symudodd i’w swydd bresennol fel Prifathro Ysgol Bro Myrddin, sef ysgol gyfun Gymraeg Caerfyrddin, ym 1997. Deil ddiplomâu fel Trwyddedog a Chymrawd Coleg Cerdd Y Drindod Llundain, a gradd Meistr o’r Brifysgol Agored. Gwahoddir ef yn gyson i feirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn cystadlaethau lleisiol a chyfansoddi, ac fe’i urddwyd i Orsedd y Beirdd er anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru. Fel cyfansoddwr cyhoeddodd bum cyfrol o ganeuon ynghyd â nifer sylweddol o ddarnau corawl. Daw yn Llywydd Côr Meibion Pontarddulais ar ôl gwasanaethu’r Côr fel Cyfeilydd am ddeunaw mlynedd rhwng 1973 a 1991.
|
|
 Eric Jones |
^ brig
Yn frodor o Murton ar Benrhyn
Gwyr, ganwyd Clive John Phillips yn 1959 a derbyniodd ei addysg
yn Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt ac Ysgol Uwchradd Tregwyr.
Derbyniodd hyfforddiant cerddoriaeth gan John Edmunds LRAM,
Brenda Llewellyn LRAM ARCM (Piano) a John Morgan Davies LWCMD
FTCL LRAM ARCM (Organ).
Apwyntiwyd Clive fel cyfeilydd am y tro cyntaf yn ddeuddeg
oed i gôr lleol ac ym 1977 daeth yn gyfeilydd a dirprwy arweinydd
i Gôr Meibion Llanelli, safle y bu ynddi tan iddo fynd yn
Gyfarwyddwr Cerddorol Côr Meibion Aberafan yn Chwefror 1983.
Yn dilyn cyfnod byr fel Cyfarwyddwr Cerddorol Cysylltiol
Côr Meibion Dynfant, apwyntiwyd Clive yn Gyfarwyddwr Cerddorol
Côr Meibion Porth Tywyn lle arhosodd yn y swydd tan i'r diweddar
Noel Davies MBE JP ei wahodd i ddod yn gyfeilydd Côr Meibion
Pontarddulais, safle y bu ynddi o 1991 hyd 2002, pan yr apwyntiwyd
yn Gyfarwyddwr Cerddorol.
Mae wedi arwain cyngherddau mewn amryw o leoliadau ar hyd
a lled y Deyrnas Unedig gan gynnwys Neuadd Albert, Llundain,
Neuadd y Dref, Chelmsford, Neuadd y Dref, Rhydychen, a'r corau
meibion cyfun yng nghyngerdd coffáu Richard Burton.
Cafodd yr anrhydedd o arwain nifer o'r bandiau milwrol enwog
mewn cyngerdd, megis y Môr-filwyr Brenhinol, Gwarchodlu'r
Alban, Gwarchodlu Coldstream a Gwarchodlu Cymru.
Fel organydd mae wedi gwneud dros 30 o recordiadau gydag
amryw o gorau ac wedi chwarae mewn nifer o leoliadau megis
Neuadd Albert, y Neuadd Wyl Frenhinol, Neuadd Ganolog San
Steffan, Eglwys Gadeiriol Coventry, Neuadd y Dref Birmingham,
Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a Neuadd y Brangwyn, Abertawe.
Mae wedi rhoi perfformiadau organ mewn amryw o eglwysi yn
ardaloedd Abertawe a Llanelli.
Mae'i orchwylion fel cyfeilydd unawdwyr wedi'i weld yn cyfeilio
i nifer o gantorion byd enwog. Yn ogystal bu'n gyfeilydd i'r
astrolegydd Patrick Moore a oedd yn perfformio ei gerddoriaeth
seiloffon ei hun mewn cyngerdd yn Neuadd Albert.
Roedd Clive Phillips ar banel y cyfeilyddion yn Eisteddfod
Genedlaethol 1982 yn Abertawe.
Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cerddorol ac Arweinydd Cydymaith
Corws Meibion y Mynydd Du ac yn Gyfarwyddwr Cerddorol ar Chwaraewyr
Cerddorol Llanelli.
|
|

Clive Phillips |
^ brig
|
Astudiodd Rachel Ramos y piano gyntaf gyda Susan Curthoys a Patricia Shakleton.
Mwynhaodd hefyd astudio'r fiolín a daeth yn flaenwr Cerddorfa
Ieuenctid Cumbria. Ym Mhrifysgol Caerdydd dechreuodd astudio
Cerddoriaeth a Ffrangeg, ond symudodd i Goleg Brenhinol Cerdd
a Drama Cymru yn ei hail flwyddyn i ganolbwyntio ar Gerddoriaeth.
Graddiodd Rachel ag anrhydedd o RWCMD, lle astudiodd gyda
Rosalie Armstrong. Enillodd nifer o wobrau gan gynnwys y Wobr
Two Trustees BA am astudiaethau Academaidd a Gwobr Jacobson
yn ei hail flwyddyn, ac yn ei thrydedd flwyddyn y Wobr Concerto,
a arweiniodd ati hi'n perfformio Trydydd Concerto Piano Prokofiev's
yn Neuadd Dewi Sant ac o ganlyniad, Carnifal Saint Saen's
yn ystafelloedd y Cynulliad, Caerfaddon. Enillodd hefyd Wobr
Coffa Simon Clarkson a Gwobr Coffa Lawrence Davies yn ei thrydedd
flwyddyn ag ennill ysgoloriaeth o gronfa John Fisher a Gwyl
Paxos ar gyfer ei hastudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Cerdd
a Drama Neuadd y Gorfforaeth gyda Caroline Palmer.
Wedi ennill Gwobr Cyfeiliant yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith,
dechreuodd weithio fel cyfeilydd yn RWCMD. Bellach hi yw prif
gyfeilydd yr adran chwythbrennau, ac yn cyfeilio i fyfyrwyr
a staff ymweliadol megis y clarinetwyr David Campbell, Maximilliano
Martin (SNCO), Peter Fielding (WNO) a'r sacsoffonydd Lara
James.
Mae hefyd wedi gweithio ar ei liwt ei hun i glyweliadau Cerddorfa
Genedlaethol Cymru'r BBC ac Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
a pherfformiodd Candide Bernstein gyda hwy. Rachel hefyd yw
un o gyfeilyddion Gwyl Ffliwt Ryngwladol Stratford.
Ar ben hyn oll, mae'n dysgu'r piano yn Adran Iau'r RWCMD,
ac yn perfformio'n aml yn unigol yn Neuadd y Dref Cheltenham,
Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, ac yn Abertawe. Mae hefyd wedi
perfformio yn Iwerddon, Groeg, Awstralia, Norwy a'r Ffindir.
Mae wedi cyfeilio i nifer o gorau yng Nghymru ac ar deithiau
i Ewrop gan gynnwys Côr Meibion Rygbi Treforys, Côr Meibion
Abertawe, Côr Meibion Dynfant, Orffews Treforys, Merched Treforys
a Chôr Bach Abertawe. Bellach mae Rachel yn mwynhau ei rôl
fel prif gyfeilydd Côr Meibion Pontarddulais ac aeth ar daith
gyda hwy i'r UDA yn Hydref 2007, gan berfformio yn Scranton
Pennsylvania, Washington ac Efrog Newydd.
|
|

Rachel Ramos |
^ brig
|
Wedi ei geni yng Nghaerdydd ym 1976, addysgwyd Rhiannon yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, ac astudiodd Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl ennill ysgoloriaeth mynediad lleisiol David Lloyd.
Fe’i magwyd yn Y Bari, a chafodd ei haddysg gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Datblygodd ei gyrfa fel cantores gan ennill nifer o wobrau yn cynnwys fel uchafbwynt pencampwriaeth ‘1989 British BET Choirgirl of the year’ wedi iddi ennill y teitl dros Gymru'r un flwyddyn.
Wedi perfformio yn Neuadd Albert, Neuadd Dewi Sant a darlledu ar radio a theledu, llwyddodd yn bymtheg mlwydd oed yn yr arholiad Gradd VIII fel cantores, tra’n fyfyrwraig ysgoloriaeth rhan amser yn y Coleg Cerdd a Drama. Daeth yn aelod o Gôr Ieuenctid Cymru a Phrydain, Cor St John’s Smith Square a’r RSCM Cathedral Singers, lle enillodd ei gwobr St Cecilia ac wedyn ei diploma trwyddedog mewn llais o Goleg Y Drindod Llundain, dan hyfforddiant Jeanette Massochi.
Bellach, gyda galwadau niferus fel cyfeilydd, enillodd Rhiannon ysgoloriaeth i astudio piano yn yr Academi Frenhinol yn Llundain gyda’r Athro Graeme Humphrey, fel canlyniad i ddwy wobr ‘Associated Board’, ac aeth ymlaen i ennill anrhydedd yn ei holl arholiadau diploma o’r Guildhall, Coleg y Drindod, Coleg Llundain a’r ‘Royal Schools of Music’. Yn 2008 fe’i gwnaethpwyd yn aelod anrhydeddus o gôr meibion enwog Treorci, lle bu’n Brif Gyfeilydd rhwng 1998 a 2002, gan ymddangos mewn dros gant o gyngherddau, dau recordiad a theithiau i Awstralia, America, a Chanada. Fe’I hapwyntiwyd fel cyfeilydd Côr Meibion Pen-y-bont rhwng 2003 a 2008, gan gynorthwyo fel cyfarwyddwr ar sawl achlysur. Yn ystod cyfnod llwyddiannus y côr mewn cystadlaethau amrywiol fe’i llongyfarchwyd gan feirniaid am safon ei chyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Côr Cymru, Gwyl Cheltenham a Chystadleuaeth Corau Radio Cymru.
Wrth ddod yn Gyfeilydd Cysylltiol gyda Chôr Meibion Pontarddulais yn 2008, mae Rhiannon yn awyddus i gyfuno’r swydd gyda’i gwaith fel cyfeilydd ar ei liwt ei hun (wedi gweithio gydag artistiaid megis Shan Cothi, Ros Evans, Martin Lloyd, Rhys Meirion a Fflur Wyn), ei phractis preifat fel athrawes yn ei chartref yn Nhreorci, a’I rôl fel cyfarwyddwr cerdd Côr Merched Ynysybwl, lle bu wrthi oddi ar 2002.
Yn dilyn y fraint o gyfeilio ac arwain yng Ngwyl Corau Merched Unedig yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd yn 2008, gwahoddwyd Rhiannon I gyfeilio yng nghyngerdd ‘Mil o Leisiau Merched’ yn neuadd Albert yn 2011.
Mae diddordebau eraill Rhiannon yn cynnwys bod yn organydd
i seremonïau anrhydeddu Prifysgol Morgannwg oddi ar 2006,
a gweithredu fel charaewraig offerynnau taro ar ei liwt ei
hun i fandiau pres. |
|

Rhiannon Williams-Hale |
^ brig
Yn dilyn gyrfa mewn masnach, cydiodd John mewn cerddoriaeth ar sail broffesiynol, gan astudio fel myfyriwr aeddfed yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.
Wedyn bu’n athro mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ymddiddora mewn cerddoriaeth amrywiol yn ymestyn o’r clasurol i jazz, ac mae'r un mor debygol i’w weld yn chwarae mewn cyngerddau jazz canol dydd ag y mae i’w glywed yn rhoi datganiadau ar yr organ.
Ymddiddora hefyd mewn opera, a bu’n gyfarwyddwr cerdd ar nifer o gwmnïau amatur.
|
|
^ brig
| Cadeirydd: |
Ian Lloyd |
| Is Gadeirydd: |
John Delbridge |
| Ysgrifennydd: |
Lyn Anthony |
| Trysorydd: |
Bryan Davies |
| Swyddog Tocynnau: |
Antony Bidder |
| Cofrestrydd: |
John Walters |
| Swyddog Trafnidiaeth: |
Gwyn Davies |
| Swyddog Cyhoeddusrwydd: |
Gareth Lewis |
| Swyddog Cymdeithasol: |
Gareth Price |
| Swyddog Marchnata: |
Islwyn Thomas |
| Swyddog Gwisg: |
Mayberry Evans |
| Pwyllgor Cyfetholedig: |
1. John Davies
2. Alun Davies
3. Winston Price |
^ brig
|
|
|