back to homepage
Cymraeg Cymraeg   English English    
Welcome to the Pontarddulias Male Choir website   

 

 » Cartref
 » Siop Ar-lein
 » Rhoddion
 » Hanes y Côr
 » Gorchestion
 » Newyddion
 » Cyngherddau
 » Llyfr Gwestai
 » Aelodau’r Côr
 » Noddwyr y Côr
 » Pwysigion
 » Noddwyr Busnes
 » Ffotograffau
 » Dolenni Defnyddiol
 » Adran Aelodau
 » Cysylltu

Gwerthusiad Cyfartalog
5 out of 55 out of 55 out of 55 out of 55 out of 5
» Gwerthuso’n Gwefan «
Rhifydd Ymwelwyr
1,359,425
Visitors logged since
1st December 2001

 

Yn sydyn fore Sadwrn 2 Awst 2003, bu farw Noel Davies yn ei gartref ym Mhontybrenin, Gorseinon yn saithdeg pum mlwydd oed.

Yn ei angladd ddydd Llun 11 Awst adlewyrchwyd y parch mawr tuag ato mewn cylchoedd canu corawl trwy bresenoldeb cynrychiolwyr o gorau niferus dros Gymru gyfan.

Clywir son am eiconau canu corawl Cymru dros y blynyddoedd, megis John H Davies (Treorci), Ivor Sims (Orffiws Treforys) ac Arthur Duggan (Pendyrus). Haedda Noel Davies ei le ochr yn ochr â’r mawrion yma.

Gwelir ei golled yn fawr, nid yn unig gan ei ffrindiau niferus, a’i fois yn y Bont, ond ym myd canu corau meibion yn gyffredinol.

Cyhoeddodd Noel Davies ei fwriad i ymddeol fel arweinydd Côr Meibion Pontarddulais yn 2002, ar ôl 41 o flynyddoedd wrth y llyw. Roedd yn wr uchel ei barch ym myd canu corau meibion yng Nghymru. Arwydd o’i enw da oedd y gwahoddiadau a gawsai i arwain a beirniadu. Yn ystod ei yrfa bu’n arwain corau meibion unedig yn Neuadd Albert Llundain, Cymanfa Ganu Gogledd America, a chymanfa ganu’r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith. Roedd yn aelod o’r Orsedd ac fe’i hanrhydeddwyd gyda’r MBE am ei gyfraniad i ganu corawl. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Tregwyr a Choleg Y Drindod, Caerfyrddin. Bu’n Brifathro Ysgol Gynradd Cila, Abertawe, cyn ei ymddeoliad.

Wrth gyhoeddi ei fwriad i ymddeol fel y Cyfarwyddwr Cerdd dywedodd Mr Davies, "Bu’r penderfyniad hwn yn un o’r rhai anoddaf i mi wneud erioed. Cefais 41 o flynyddoedd gyda’r côr gorau posib. Cawsom lwyddiannau mawr dros y blynyddoedd, a gyda’r fuddugoliaeth yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 2001, teimlaf yr amser yn iawn i drosglwyddo’r awenau i’m holynydd."

Sylw olaf Noel i’r côr cyn iddynt gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ar 9 Awst 2003 oedd "Gwnewch hi’n ddeuddegfed, fechgyn". Rydym yn ymfalchïo ein bod wedi ennill y gystadleuaeth am y deuddegfed tro, er anrhydedd I Noel.

Mae’r dudalen hon er cydnabyddiaeth o ymroddiad Noel i’r côr a sylfaenwyd ganddo dros ddeugain o flynyddoedd yn ôl.

^ brig


 
the late Noel Davies M.B.E
Noel G. Davies MBE