Côr Meibion Pontarddulais - y côr meibion cystadleuol mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Mae Côr Meibion Pontarddulais hefyd yn enwog ledled y byd, wedi canu mewn sawl gwlad yn Ewrop yn ogystal â Chanada a’r Unol Daleithiau.
Ym 1960, o dan arweinyddiaeth y diweddar Noel Davies M.B.E. bu Côr Ieuenctid Pontarddulais yn cystadlu’n llwyddiannus mewn Eisteddfodau Ieuenctid. Yn sydyn roeddent yn rhy hen i’r cystadlaethau ieuenctid!
Roedd awch y gwyr ifanc i barhau fel côr yn gryf ac felly ganwyd Côr Meibion Pontarddulais.
Ar y pryd, a hyd heddiw, roedd yna sawl côr sefydledig ac enwog mewn ardal cymharol fach.
Roedd y penderfyniad i gamu i mewn i’r fagwrfa o ganu corawl meibion felly yn un dewr a phwysig iawn.
Yn llawn brwdfrydedd a hunan sicrwydd, o dan arweiniad anturiaethus ac egnïol y diweddar Noel Davies, felly fe aeth y côr i mewn i’r byd Corawl Meibion.
O fewn ychydig fisoedd, oherwydd brwdfrydedd heintus y Cyfarwyddwr Cerddorol ag ymrwymiad yr aelodau, tyfodd y côr i dros 80 o leisiau. Cymhwysodd hyn y côr i ennill y brif statws corawl.
Yn 1963 cystadlodd y côr ifanc yn yr ei Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yn Llandudno. Er syndod i nifer o bobl enillodd y côr y gystadleuaeth o flaen nifer o gorau cystadleuol eraill enwog iawn.
Felly y dechreuodd record gystadleuol fwyaf llwyddiannus unrhyw gôr yng Nghymru. Mae’r côr wedi derbyn pedair gwobr gyntaf ar ddeg a dwy ail wobr mewn un ymgais ar bymtheg yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y mwyaf diweddar oedd Eisteddfod Abertawe yn 2006. Yn ogystal mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith yn Eisteddfod hanner-cenedlaethol Ceredigion ac Eisteddfod Glowyr Porthcawl.
Er i aelodaeth y côr godi a gostwng ar hyd y blynyddoedd, nid yw erioed wedi cwympo o dan 100. Mae’r tîm cerddorol a’r côr yn haeddu cryn ganmoliaeth felly, yng ngolwg y gystadleuaeth ffyrnig yn lleol gan gorau meibion a diddordebau cerddorol eraill.
Mae’r aelodaeth yn dod o adran eang o’r gymuned gan gynnwys diwydiant lleol, llywodraeth leol, y gwasanaethau sifil, gwasanaethau cyhoeddus, yr heddlu ac addysg. Bu nifer o’r aelodau sydd bellach wedi ymddeol yn gweithio yn y diwydiannu a oedd unwaith yn asgwrn cefn yr ardal h.y. glo, dur, a thunplat.
Mae nifer o’r côr ieuenctid gwreiddiol yn dal yn llwyr ymroddedig sy’n enghreifftio’r parch sy’n bodoli tuag at y côr a’r cyfeillgarwch sy’n bodoli yn ei rengoedd. |
^ brig
|