Ymunwch â'r Côr


Ystyried ymuno â chôr? Peidiwch ag edrych ymhellach na'r Bont!

Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd, ond nid eich llais yn unig rydym ei eisiau — er mor dda mae'n siŵr y byddai — rydym eich eisiau chi hefyd! Daw ein haelodau o bob cefndir, gyda myfyrwyr, athrawon a nyrsys yn eistedd och yn ochr â chyfreithwyr, crefftwyr a milwyr.

Rehearsal


Rydym yn ymarfer bob
nos Lun a nos Ferche
am 7PM-9PM
Yn
Ysgol Gynradd Pontarddulais
Stryd James, Pontarddulais SA4 8JD

Mae gennym fywyd cymdeithasol ffyniannus, sy'n cynnwys teithiau cyngerdd dramor ac yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn trefnu nosweithiau cymdeithasol hefyd, a sawl afterglow, sef sesiynau canu hamddenol i ddiddanu cwsmeriaid tafarnau lleol, yn enwedig ar ôl cyngherddau.

Darllenwch ein taflen wybodaeth i Aelodau Newydd lsy'n amlygu rhai o'r cwestiynau cyffredin, a ddylai eich helpu i deimlo'n gartrefol os hoffech roi cynnig arni gyda ni.
Ni fydd angen clyweliad arnoch; dim ond prawf llais syml i bennu pa lais o'r côr sydd fwyaf addas i chi.

Roedd llawer o'n haelodau'n ansicr ynghylch ymuno â chôr meibion cyn dod atom, gan feddwl y byddai'n rhy anodd dysgu'r holl ganeuon. Peidiwch â bod ofn! Rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau bod aelodau penodol o fewn y côr a fydd yn eich helpu i ymgartrefu'n rhwydd pan fyddwch yn ymuno.

Mae ein haelodau'n deall pryderon aelodau newydd a'r heriau maent yn eu hwynebu, oherwydd maent oll wedi'u profi eu hunain.

Felly peidiwch ag oedi, a chysylltwch â:
John Jones - Swyddog Recriwtio
email: secretary@pontarddulaismalechoir.com
 Rhif ffôn: 07989 461 122