Mae'r côr wedi teithio'n helaeth er mwyn rhannu ei gariad at gerddoriaeth
ac adlonni cynulleidfaoedd. Tra bod nifer o gyngherddau wedi'u cynnal
yn lleol, mae'r côr wedi perfformio cyn belled i ffwrdd â Truro
yn y de a Perth yn y gogledd ac er mwyn cynnal cydbwysedd, mae Neuadd
y Dref Birmingham wedi gweld y côr yn perfformio ar sawl achlysur.
Ar bum achlysur mae'r côr wedi rhoi cyngherddau ei hunan yn Neuadd
Frenhinol Albert, Llundain, sy'n un o uchafbwyntiau'r côr o ran
perfformio yn y DU.
Mae rhan fwyaf o waith y côr ar dreuliau yn unig ar gyfer elusennau,
er mai nifer o berfformiadau ar y teledu a'r radio wedi'u comisiynu
gan gwmnïau teledu a radio lleol a chenedlaethol. Roedd Noel
Davies wastad yn mwynhau her newydd fel y dengys gan gyfranogiad
y côr wrth wneud y ffilm 'The Wall', a ysgrifennwyd a'i chyfarwyddwyd
gan Pink Floyd. Arweiniodd hyn at Roger Waters', cyn-aelod o Pink
Floyd, yn rhyddhau albwm a fideo ' Radio Kaos' yn cynnwys perfformiadau
gan y côr.
^ brig
Mae'r Côr wedi cael y fraint o berfformio yng nghwmni aelodau o'r
Teulu Brenhinol ar sawl achlysur. Yn nathliadau degfed Pen-blwydd
Arwisgiad Tywysog Cymru canodd y côr ym mhresenoldeb y Tywysog yng
Nghastell Caernarfon.
Cyflawnwyd cyngherddau
yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a Neuadd Albert, Llundain ym mhresenoldeb
Mam y Frenhines, Dug a Duges Caint a'r diweddar Diana, Tywysoges
Cymru.
^ brig
Ym 1987 canodd y côr yn lansiad yr Awyren Awyrofod Prydeinig BAe,
yn Hatfield, Lloegr, yr awyren tawelaf yn y byd.
Bydd y perfformiad o gân Simon a Garfunkel, 'Sound of Silence',
a drefnwyd gan Eric Jones, cyn-gyfeilydd a llywydd presennol y côr,
yn aros yng nghof y sawl a oedd yn bresennol am nifer o flynyddoedd.
^ brig
Nid yw perfformiadau wedi'u cyfyngu i'r DU yn unig. Hyd yn hyn
mae'r côr wedi ymweld â Sbaen (2001), Sweden (1996), Canada (1973,77,96),
Yr Almaen (1979,80), Portiwgal (1986), Gweriniaeth Iwerddon (1989,
2006) ac UDA (1993, 2007).
Ar y daith i Ganada ym 1996 perfformiodd y côr yn Calgary, Vernon,
Victoria, Duncan a Vancouver.
^ brig
Yng Ngorffennaf 1998 cynrychiolodd y côr Gymru yn seremoni agoriadol
Cyngres Swyddogion Adfyddin NATO (Cyfundrefn Cytundeb Gogledd Iwerydd).
Roedd Swyddogion Uwch o'r 15 gwlad NATO yn bresennol ynghyd a gwylwyr
o ddwyrain Ewrop, Awstralia a De Affrica.
Braint ydoedd i'r côr gael y gwahoddiad i gymryd rhan mewn seremoni
sy'n dod i un o wledydd NATO bob 15 mlynedd.
^ brig
Nid yw pellter wedi rhwystro nod y côr o greu cerddoriaeth a diddanu
ystod eang o gynulleidfaoedd. Gellir priodoli ei lwyddiant i'r repertoire
helaeth y gall y Cyfarwyddwr Cerddorol ddewis ohono.
Cynhwysa'r repertoire gyfansoddiadau litwrgïaidd a seciwlar, cerddoriaeth
draddodiadol Gymreig a Chymraeg, clasurol ac operatig, yn ogystal
â chaneuon cyfoes.
^ brig
|